Eseia 52:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion;ymwisga yn dy ddillad godidog,O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd;oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyachneb dienwaededig nac aflan.

2. Cod, ymysgwyd o'r llwch, ti Jerwsalem gaeth;tyn y rhwymau oddi ar dy war, ti gaethferch Seion.

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Gwerthwyd chwi am ddim,ac fe'ch gwaredir heb arian.”

4. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw:“Yn y dechrau, i'r Aifft yr aeth fy mhobl i ymdeithio,ac yna bu Asyria'n eu gormesu'n ddiachos.

Eseia 52