Eseia 51:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Caiff y caeth ei ryddhau yn y man;ni fydd yn marw yn y gell,ac ni fydd pall ar ei fara.

15. Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw,sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw.

16. Gosodais fy ngeiriau yn dy enau,cysgodais di yng nghledr fy llaw;taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear,a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ”

17. Deffro, deffro, cod, Jerwsalem;yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid,yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.

18. O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt,nid oes un a all ei thywys;o'r holl rai a fagodd,nid oes un a afael yn ei llaw.

19. Daeth dau drychineb i'th gyfarfod—pwy a'th ddiddana?Dinistr a distryw, newyn a chleddyf—pwy a'th gysura?

Eseia 51