Eseia 50:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Agorodd yr ARGLWYDD Dduw fy nghlust,ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n ôl.

6. Rhoddais fy nghefn i'r curwyr,a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf;ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.

7. Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal,am hynny ni chaf fy sarhau;felly gosodaf fy wyneb fel callestr,a gwn na'm cywilyddir.

8. Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law.Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd;pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nesáu ataf.

9. Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal:pwy a'm condemnia?Byddant i gyd yn treulio fel dilledyna ysir gan wyfyn.

Eseia 50