Eseia 5:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yn awr, breswylwyr Jerwsalem,a chwi, bobl Jwda,barnwch rhyngof fi a'm gwinllan.

4. Beth oedd i'w wneud i'm gwinllan,yn fwy nag a wneuthum?Pam, ynteu, pan ddisgwyliwn iddi ddwyn grawnwin,y dygodd rawn drwg?

5. Yn awr, mi ddywedaf wrthychbeth a wnaf i'm gwinllan.Tynnaf ymaith ei chlawdd,ac fe'i difethir;chwalaf ei mur,ac fe'i sethrir dan draed;

6. gadawaf hi wedi ei difrodi;ni chaiff ei thocio na'i hofio;fe dyf ynddi fieri a drain,a gorchmynnaf i'r cymylaubeidio â glawio arni.

7. Yn wir, gwinllan ARGLWYDD y Lluoedd yw tŷ Israel,a phobl Jwda yw ei blanhigyn dethol;disgwyliodd gael barn, ond cafodd drais;yn lle cyfiawnder fe gafodd gri.

8. Gwae'r rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ,sy'n chwanegu cae at gaenes llyncu pob man,a'ch gadael chwi'n unig yng nghanol y tir.

Eseia 5