Eseia 5:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Nid oes neb yn blino nac yn baglu,nid oes neb yn huno na chysgu,nid oes neb a'i wregys wedi ei ddatod,nac a charrai ei esgidiau wedi ei thorri.

28. Y mae eu saethau'n llyma'u bwâu i gyd yn dynn;y mae carnau eu meirch fel callestr,ac olwynion eu cerbydau fel corwynt.

29. Y mae eu rhuad fel llew;rhuant fel llewod ifanc,sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaetha'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed.

30. Rhuant arni yn y dydd hwnnw,fel rhuad y môr;ac os edrychir tua'r tir, wele dywyllwch a chyfyngdra,a'r goleuni yn tywyllu gan ei gymylau.

Eseia 5