Eseia 5:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Fe gyfyd faner i genhedloedd pell,a chwibana arnynt o eithaf y ddaear,ac wele, fe ddônt yn fuan a chwim.

27. Nid oes neb yn blino nac yn baglu,nid oes neb yn huno na chysgu,nid oes neb a'i wregys wedi ei ddatod,nac a charrai ei esgidiau wedi ei thorri.

28. Y mae eu saethau'n llyma'u bwâu i gyd yn dynn;y mae carnau eu meirch fel callestr,ac olwynion eu cerbydau fel corwynt.

29. Y mae eu rhuad fel llew;rhuant fel llewod ifanc,sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaetha'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed.

30. Rhuant arni yn y dydd hwnnw,fel rhuad y môr;ac os edrychir tua'r tir, wele dywyllwch a chyfyngdra,a'r goleuni yn tywyllu gan ei gymylau.

Eseia 5