Eseia 5:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. fe'i cloddiodd, a'i digaregu;fe'i plannodd â'r gwinwydd gorau;cododd dŵr yn ei chanol,a naddu gwinwryf ynddi.Disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin,ond fe ddygodd rawn drwg.

3. Yn awr, breswylwyr Jerwsalem,a chwi, bobl Jwda,barnwch rhyngof fi a'm gwinllan.

4. Beth oedd i'w wneud i'm gwinllan,yn fwy nag a wneuthum?Pam, ynteu, pan ddisgwyliwn iddi ddwyn grawnwin,y dygodd rawn drwg?

5. Yn awr, mi ddywedaf wrthychbeth a wnaf i'm gwinllan.Tynnaf ymaith ei chlawdd,ac fe'i difethir;chwalaf ei mur,ac fe'i sethrir dan draed;

Eseia 5