Eseia 5:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn,a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.

17. Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.

18. Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd,a phechod megis â rhaffau men,

19. y rhai sy'n dweud, “Brysied,prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”

20. Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg,sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch,sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.

Eseia 5