Eseia 5:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc,ac agor ei cheg yn ddiderfyn;fe lyncir y bonedd a'r werin,ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.

15. Darostyngir gwreng a bonedd,a syrth llygad y balch;

16. ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn,a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.

17. Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.

18. Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd,a phechod megis â rhaffau men,

19. y rhai sy'n dweud, “Brysied,prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”

Eseia 5