Eseia 5:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gwae'r rhai sy'n codi'n forei ddilyn diod gadarn,ac sy'n oedi hyd yr hwyrnes i'r gwin eu cynhyrfu.

12. Yn eu gwleddoedd fe geir y delyn a'r nabl,y tabwrdd a'r ffliwt a'r gwin;ond nid ystyriant waith yr ARGLWYDDnac edrych ar yr hyn a wnaeth.

13. Am hynny, caethgludir fy mhoblo ddiffyg gwybodaeth;bydd eu bonedd yn trengi o newyna'u gwerin yn gwywo gan syched.

14. Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc,ac agor ei cheg yn ddiderfyn;fe lyncir y bonedd a'r werin,ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.

15. Darostyngir gwreng a bonedd,a syrth llygad y balch;

16. ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn,a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.

17. Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.

18. Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd,a phechod megis â rhaffau men,

19. y rhai sy'n dweud, “Brysied,prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”

20. Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg,sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch,sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.

21. Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain,ac yn gall yn eu tyb eu hunain.

22. Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin,ac yn gryfion wrth gymysgu diod gadarn,

23. y rhai sy'n cyfiawnhau'r euog am wobr,ac yn gwrthod cyfiawnder i'r cyfiawn.

24. Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dânac y diflanna'r mân us yn y fflam,felly y pydra eu gwreiddynac y diflanna eu blagur fel llwch;am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd,a dirmygu gair Sanct Israel.

Eseia 5