Eseia 48:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Gwrandewch hyn, dŷ Jacob,y rhai a elwir ar enw Israel,sy'n tarddu o had Jwda,sy'n tyngu yn enw'r ARGLWYDDac yn galw ar Dduw Israel,heb fod yn onest na didwyll.

2. Galwant eu hunain yn bobl y ddinas sanctaidd,a phwyso ar Dduw Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

3. “Mynegais y pethau cyntaf erstalwm,eu cyhoeddi â'm genau fy hun a'u gwneud yn hysbys;ar drawiad gweithredais, a pheri iddynt ddigwydd.

4. Gwyddwn dy fod yn ystyfnig,a'th war fel gewyn haearn,a'th dalcen fel pres;

5. am hynny rhois wybod i ti erstalwm,a'th hysbysu cyn iddynt ddigwydd,rhag i ti ddweud, ‘Fy nelw a'u gwnaeth,fy eilun a'm cerfddelw a'u trefnodd.’

Eseia 48