Eseia 47:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr;bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub—dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr,sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.

14. Edrych, y maent fel us, a'r tân yn eu hysu;ni fedrant eu harbed eu hunain rhag y fflam.Nid glo i dwymo wrtho yw hwn,nid tân i eistedd o'i flaen.

15. Fel hyn y bydd y rhai y buost yn ymflino â hwyac yn ymhél â hwy o'th ieuenctid;trônt ymaith bob un i'w ffordd ei hun,heb allu dy waredu.”

Eseia 47