Eseia 47:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Disgyn, ac eistedd yn y lludw,ti, ferch wyry Babilon.Eistedd ar y llawr yn ddiorsedd,ti, ferch y Caldeaid;ni'th elwir byth eto yn dyner a moethus.

2. Cymer y meini melin i falu blawd,tyn dy orchudd,rhwyga dy sgert, dangos dy gluniau,rhodia trwy ddyfroedd.

3. Dangoser dy noethni,a gweler dy warth.Dygaf ddial, ac nid arbedaf neb.”

4. Ein Gwaredydd yw Sanct Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

5. “Eistedd yn fud, dos i'r tywyllwch,ti, ferch y Caldeaid;ni'th elwir byth eto yn arglwyddes y teyrnasoedd.

6. Digiais wrth fy mhobl,halogais fy etifeddiaeth,rhoddais hwy yn dy law;ond ni chymeraist drugaredd arnynt,gwnaethost yr iau yn drwm ar yr oedrannus.

7. Dywedaist, ‘Byddaf yn arglwyddes hyd byth’,ond nid oeddit yn ystyried hyn,nac yn cofio sut y gallai ddiweddu.

Eseia 47