Eseia 46:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain,a gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell.Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben,fe'i lluniais ac fe'i gwnaf.

12. Gwrandewch arnaf fi, chwi bobl ystyfnig,chwi sy'n bell oddi wrth gyfiawnder.

13. Paraf i'm cyfiawnder nesáu;nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth.Rhof iachawdwriaeth yn Seion,a'm gogoniant i Israel.”

Eseia 46