Eseia 45:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, ‘Beth genhedli di?’neu wrth wraig, ‘Ar beth yr esgori?’ ”

11. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,Sanct Israel a'i luniwr:“A ydych yn fy holi i am fy mhlant,ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?

12. Myfi a wnaeth y ddaear,a chreu pobl arni;fy llaw i a estynnodd y nefoedd,a threfnu ei holl lu.

13. Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth,ac unioni ei holl lwybrau.Ef fydd yn codi fy ninas,ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd,ond nid am bris nac am wobr,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Eseia 45