Eseia 43:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. O'r dydd hwn, myfi yw Duw;ni all neb waredu o'm llaw.Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud.”

14. Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,eich Gwaredydd, Sanct Israel:“Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon,ac yn dryllio'r barrau i gyd,a throi cân y Caldeaid yn wylofain.

15. Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;creawdwr Israel yw eich brenin.”

16. Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,a agorodd ffordd yn y môra llwybr yn y dyfroedd enbyd;

17. a ddug allan gerbyd a march,byddin a dewrion,a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi,yn darfod ac yn diffodd fel llin:

18. “Peidiwch â meddwl am y pethau gynt,peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.

Eseia 43