Eseia 43:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi,pan nad oedd duw dieithr yn eich plith;ac yr ydych chwi'n dystion i mi,” medd yr ARGLWYDD,“mai myfi yw Duw.

13. O'r dydd hwn, myfi yw Duw;ni all neb waredu o'm llaw.Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud.”

14. Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,eich Gwaredydd, Sanct Israel:“Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon,ac yn dryllio'r barrau i gyd,a throi cân y Caldeaid yn wylofain.

15. Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;creawdwr Israel yw eich brenin.”

Eseia 43