Eseia 42:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw;ni roddaf fy ngogoniant i neb arall,na'm clod i ddelwau cerfiedig.

9. Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd,a mynegaf yn awr bethau newydd;cyn iddynt darddu rwy'n eu hysbysu ichwi.”

10. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,canwch ei glod o eithaf y ddaear;bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol,yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.

11. Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef,y pentrefi lle mae Cedar yn trigo;bydded i drigolion Sela ganua bloeddio o ben y mynyddoedd.

12. Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD,a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd.

Eseia 42