Eseia 42:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef,y pentrefi lle mae Cedar yn trigo;bydded i drigolion Sela ganua bloeddio o ben y mynyddoedd.

12. Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD,a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd.

13. Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr,fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid;y mae'n bloeddio, yn codi ei lais,ac yn trechu ei elynion.

14. “Bûm dawel dros amser hir,yn ddistaw, ac yn ymatal;yn awr llefaf fel gwraig yn esgor,a gwingo a griddfan.

15. Gwnaf fynyddoedd a bryniau yn ddiffaith,a pheri i'w holl lysiau gleision wywo;gwnaf afonydd yn ynysoedd,a llynnau yn sychdir.

Eseia 42