Eseia 39:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, “Gwrando air ARGLWYDD y Lluoedd:

6. ‘Wele'r dyddiau'n dyfod pan ddygir pob peth sydd yn dy dŷ di, a phob peth a grynhôdd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,’ medd yr ARGLWYDD.

7. ‘Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, a byddant yn weision ystafell yn llys brenin Babilon.’ ”

Eseia 39