Eseia 37:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Oherwydd i ti weddïo arnaf ynghylch Senacherib brenin Asyria,

22. dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn ef:“ ‘Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu,yn chwerthin am dy ben;y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.

23. Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu?Yn erbyn pwy yr wyt yn codi dy lais?Yr wyt yn gwneud ystum dirmygusyn erbyn Sanct Israel.

24. Trwy dy weision fe geblaist yr ARGLWYDD, a dweud,“Gyda lliaws fy ngherbydaudringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd,i bellterau Lebanon;torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd;euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog;

Eseia 37