Eseia 34:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan;bydd ei gwlad yn byg yn llosgi;

10. nis diffoddir na nos na dydd,a bydd ei mwg yn esgyn am byth.O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith,ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto.

11. Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn,a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno;bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn,a phlymen tryblith dros ei dewrion.

12. Fe'i gelwir yn lle heb deyrn,a bydd ei holl dywysogion yn ddiddim.

Eseia 34