Eseia 34:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef;wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.

6. Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyfwedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster,ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod.Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra,a lladdfa fawr yn nhir Edom.

7. Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy,a bustych gyda theirw;mwydir eu tir gan waed,a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster.

8. Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial,a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth.

9. Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan;bydd ei gwlad yn byg yn llosgi;

10. nis diffoddir na nos na dydd,a bydd ei mwg yn esgyn am byth.O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith,ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto.

11. Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn,a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno;bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn,a phlymen tryblith dros ei dewrion.

Eseia 34