Eseia 33:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Dyrchafwyd yr ARGLWYDD, fe drig yn yr uchelder;fe leinw Seion â barn a chyfiawnder,

6. ac ef fydd sicrwydd dy amserau.Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth,ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor.

7. Clyw! Y mae'r glewion yn galw o'r tu allan,a chenhadau heddwch yn wylo'n chwerw.

8. Y mae'r priffyrdd yn ddiffaith,heb neb yn troedio'r ffordd;diddymwyd cyfamodau, diystyrwyd cytundebau,nid yw neb yn cyfrif dim.

9. Y mae'r wlad mewn galar a gofid,Lebanon wedi drysu a gwywo;aeth Saron yn anialwch,a Basan a Charmel heb ddail.

10. “Ond yn awr mi godaf,” medd yr ARGLWYDD,“yn awr mi ymddyrchafaf, yn awr byddaf yn uchel.

11. Yr ydych yn feichiog o us ac yn esgor ar sofl;tân yn eich ysu fydd eich anadl;

Eseia 33