Eseia 33:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni,a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn:“Pwy ohonom a all fyw gyda thân ysol,a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?”

15. Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir,sy'n gwrthod elw trawster,sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr,sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio,sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.

16. Y mae ef yn trigo yn yr uchelder,a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau,a'i fara'n dod iddo, a'i ddŵr yn sicr.

17. Fe wêl dy lygaid frenin yn ei degwch,a gwelant dir yn ymestyn ymhell;

Eseia 33