Eseia 33:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio,ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo;pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir,pan beidi â thwyllo, fe'th dwyllir di.

2. O ARGLWYDD, trugarha wrthym, yr ydym yn disgwyl amdanat;bydd yn nerth i ni bob bore,ac yn iachawdwriaeth i ni ar awr gyfyng.

3. Gan sŵn terfysg fe ffy pobloedd,gan dy daranu di fe wasgerir cenhedloedd.

4. Cesglir eich ysbail fel petai lindys yn ei gasglu;fel haid o locustiaid fe heidir o'i gylch.

5. Dyrchafwyd yr ARGLWYDD, fe drig yn yr uchelder;fe leinw Seion â barn a chyfiawnder,

6. ac ef fydd sicrwydd dy amserau.Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth,ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor.

Eseia 33