Eseia 33:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio,ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo;pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir,pan beidi â thwyllo, fe'th dwyllir di.

2. O ARGLWYDD, trugarha wrthym, yr ydym yn disgwyl amdanat;bydd yn nerth i ni bob bore,ac yn iachawdwriaeth i ni ar awr gyfyng.

Eseia 33