Eseia 32:6-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Oherwydd y mae'r ffŵl yn traethu ffolineb,a'i galon yn dyfeisio drygioni,i weithio annuwioldeb,i draethu celwydd am yr ARGLWYDD;y mae'n atal bwyd rhag y newynog,ac yn gwrthod diod i'r sychedig.

7. Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus;y mae'n dyfeisio camwrii ddifetha'r tlawd trwy dwyll,a gwadu cyfiawnder i'r anghenus.

8. Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd,ac yn ei anrhydedd y saif.

9. Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch;gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.

10. Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder,oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth.

11. Chwi sy'n ddiofal, pryderwch,ymysgydwch o'ch difrawder.Tynnwch eich dillad ac ymnoethi;rhowch sachliain am eich lwynau.

12. Curwch eich bronnauam y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon,

13. am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri,ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.

14. Canys cefnwyd ar y palas,a gwacawyd y ddinas boblog.Aeth y gaer a'r tŵr yn ogofeydd am byth,yn hyfrydwch i'r asynnod gwylltac yn borfa i'r preiddiau.

15. Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry,a'r anialwch yn mynd yn ddoldir,a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,

Eseia 32