Eseia 32:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Curwch eich bronnauam y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon,

13. am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri,ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.

14. Canys cefnwyd ar y palas,a gwacawyd y ddinas boblog.Aeth y gaer a'r tŵr yn ogofeydd am byth,yn hyfrydwch i'r asynnod gwylltac yn borfa i'r preiddiau.

15. Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry,a'r anialwch yn mynd yn ddoldir,a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,

16. yna caiff barn drigo yn yr anialwcha chyfiawnder gartrefu yn y doldir;

Eseia 32