Eseia 30:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Gwae chwi, blant gwrthryfelgar,” medd yr ARGLWYDD,“sy'n gweithio cynllun na ddaeth oddi wrthyf fi,ac yn dyfeisio planiau nad ysbrydolwyd gennyf fi,ac yn pentyrru pechod ar bechod.

2. Ânt i lawr i'r Aifft, heb ofyn fy marn,i geisio help gan Pharo, a lloches yng nghysgod yr Aifft.

3. Ond bydd help Pharo yn dwyn gwarth arnoch,a lloches yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.

4. Canys, er bod ei swyddogion yn Soana'i genhadau mor bell â Hanes,

5. fe ddaw pob un i gywilydd oherwydd pobl ddi-fudd,nad ydynt yn help na llesâd, ond yn warth a gwaradwydd.”

Eseia 30