Eseia 27:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Trwy symud ymaith a bwrw allan, yr wyt yn ei barnu,ac yn ei hymlid â gwynt creulon pan gyfyd o'r dwyrain.

9. Am hynny, fel hyn y mae glanhau drygioni Jacob,a hyn fydd yn symud ymaith ei gamwedd—gwneud holl feini'r allorfel cerrig calch wedi eu malu,heb bost nac allor yn sefyll.

10. Oherwydd y mae'r ddinas gadarn yn unig,yn fangre wedi ei gadael a'i gwrthod, fel diffeithdir,lle y mae'r llo yn pori a gorwedd,ac yn cnoi pob blaguryn sy'n tyfu.

11. Pan wywa'i changau, fe'u torrir,a daw'r gwragedd a chynnau tân â hwy.Am mai pobl heb ddeall ydynt,ni fydd eu Gwneuthurwr yn dangos dim trugaredd,na'u Creawdwr yn gwneud dim ffafr â hwy.

12. Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn dyrnu ŷdo'r afon Ewffrates hyd nant yr Aifft,ac fe gewch chwi, blant Israel, eich lloffa bob yn un ac un.

13. Yn y dydd hwnnw fe genir ag utgorn mawr;ac fe ddaw'r rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria,a'r rhai oedd ar chwâl yn yr Aifft,ac addoli'r ARGLWYDD yn y mynydd sanctaidd,yn Jerwsalem.

Eseia 27