1. Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD â'i gleddyf creulon, mawr a nerthol yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr.
2. Yn y dydd hwnnw y canwch gân y winllan ddymunol:
3. “Myfi, yr ARGLWYDD, fydd yn ei chadw,ei dyfrhau bob munud,a'i gwylio nos a dydd,rhag i neb ei cham-drin.
4. Nid oes gennyf lid yn ei herbyn;os drain a mieri a rydd imi,rhyfelaf yn ei herbyn, a'u llosgi i gyd;
5. ond os yw am afael ynof am sicrwydd, gwnaed heddwch â mi,gwnaed heddwch â mi.”
6. Fe ddaw'r adeg i Jacob fwrw gwraidd,ac i Israel flodeuo a blaguro,a llenwi'r ddaear i gyd â chnwd.
7. A drawodd Duw ef fel y trawodd ef yr un a'i trawodd?A laddwyd ef fel y lladdodd ef yr un a'i lladdodd?
8. Trwy symud ymaith a bwrw allan, yr wyt yn ei barnu,ac yn ei hymlid â gwynt creulon pan gyfyd o'r dwyrain.
9. Am hynny, fel hyn y mae glanhau drygioni Jacob,a hyn fydd yn symud ymaith ei gamwedd—gwneud holl feini'r allorfel cerrig calch wedi eu malu,heb bost nac allor yn sefyll.