Eseia 26:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Deisyfaf di â'm holl galon drwy'r nos,a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr;oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad,bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.

10. Er gwneud cymwynas â'r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder;fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn,ac ni wêl fawredd yr ARGLWYDD.

11. O ARGLWYDD, dyrchafwyd dy law, ond nis gwelant;gad iddynt weld dy sêl dros dy bobl, a chywilyddio;a bydded i dân d'elyniaeth eu hysu.

Eseia 26