Eseia 24:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gwywodd y ddaear a chrino,dihoenodd y byd ac edwino, dihoenodd uchelfeydd y ddaear.

5. Halogwyd y ddaear gan ei phreswylwyr,am iddynt dorri'r cyfreithiau, newid y deddfaua diddymu'r cyfamod tragwyddol.

6. Am hynny fe ysir y wlad gan felltith,a chosbir ei thrigolion;am hynny hefyd fe â'r trigolion yn llai a llai,ac ychydig fydd yn weddill.

7. Fe â'r gwin newydd yn wan,dihoena'r winwydden,a thry'r gorfoleddwyr i riddfan.

8. Bydd sŵn llawen y tympanau yn peidio,a thrwst y gyfeddach yn distewi,a'r delyn hyfryd yn dawel.

9. Ni fydd yfed gwin yn sŵn canu;bydd y ddiod yn chwerw i'r yfwr.

10. Bydd dinas anhrefn wedi ei dryllio,a phob tŷ ar glo rhag i neb fynd iddo.

11. Er galw am win yn yr heolydd,bydd diwedd ar bob cyfeddach,a diflanna llawenydd o'r wlad.

12. Anghyfanedd-dra yn unig a adewir yn y ddinas,a bydd ei phyrth wedi eu dryllio'n gandryll.

Eseia 24