Eseia 23:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Udwch, chwi longau Tarsis,oherwydd anrheithiwyd eich amddiffynfa.

15. Yn yr amser hwnnw fe anghofir Tyrus am ddeng mlynedd a thrigain, sef hyd einioes un brenin; ac ymhen deng mlynedd a thrigain bydd cyflwr Tyrus fel y butain yn y gân:

16. “Cymer dy delyn, rhodianna trwy'r ddinas,di butain a anghofiwyd;tyn yn dyner ar y tannau,cân dy ganeuon yn aml,fel y cofir di drachefn.”

Eseia 23