Eseia 23:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oracl am Tyrus:Udwch, longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd y porthladd;wrth groesi o dir Chittim fe welir hynny.

2. Wylwch, drigolion y glannau,masnachwyr Sidon, sy'n tramwyo'r môr,

3. a'th weision ar y dyfroedd mawrion;cnwd Sihor, cynhaeaf y Neil, oedd dy gyllid,a masnachwr y cenhedloedd oeddit ti.

4. Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y môr,caer y môr, a dweud,“Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor,nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion.”

5. Pan ddaw'r newydd i'r Aifft,gwingant wrth glywed am Tyrus.

6. Ewch drosodd i Tarsis;udwch, drigolion y glannau.

7. Ai hon yw eich dinas brysur,sydd â'i hanes mor hen,a'i theithio wedi mynd â hii ymsefydlu mor bell?

Eseia 23