Eseia 23:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oracl am Tyrus:Udwch, longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd y porthladd;wrth groesi o dir Chittim fe welir hynny.

2. Wylwch, drigolion y glannau,masnachwyr Sidon, sy'n tramwyo'r môr,

3. a'th weision ar y dyfroedd mawrion;cnwd Sihor, cynhaeaf y Neil, oedd dy gyllid,a masnachwr y cenhedloedd oeddit ti.

Eseia 23