Eseia 22:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Aeth eich dyffrynnoedd dethol yn llawn cerbydau,a'r gwŷr meirch yn gwarchae ar y pyrth;

8. dinoethwyd amddiffynfa Jwda.Yn y dydd hwnnw buoch yn archwilio'rarfogaeth yn Nhŷ'r Goedwig,

9. yn edrych y bylchau yn Ninas Dafyddam eu bod yn niferus,ac yn cronni dyfroedd y Llyn Isaf.

10. Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalema thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;

11. gwnaethoch gronfa rhwng y ddau furi ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn.Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth,nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.

12. Yn y dydd hwnnw, fe alwodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, am wylofain a galaru,am eillio pen a gwregysu â sachliain;

13. ond dyma lawenydd a gorfoledd,lladd gwartheg a lladd defaid,bwyta cig ac yfed gwin, a dweud,“Gadewch inni fwyta ac yfed,oherwydd yfory byddwn farw.”

Eseia 22