Eseia 22:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dinas yn llawn cynnwrf, un mewn terfysg, tref mewn berw!Ni laddwyd dy laddedigion â'r cleddyf,na'th feirwon mewn brwydr.

3. Ffodd dy arweinwyr i gyd gyda'i gilydd,fe'u daliwyd heb blygu bwa;daliwyd dy filwyr praffaf i gyd gyda'i gilydd,er iddynt ffoi ymhell i ffwrdd.

4. Am hynny dywedais, “Trowch eich golwg oddi wrthyf,gadewch i mi wylo'n chwerw;peidiwch â cheisio fy niddanuam ddinistr merch fy mhobl.”

5. Oherwydd y mae gan yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,ddiwrnod o derfysg, o fathru ac o ddryswchyn nyffryn y weledigaeth,diwrnod o falurio ceyryddac o weiddi yn y mynyddoedd.

6. Cododd Elam ei gawell saethau,bachwyd meirch wrth gerbydau Aram,dinoethodd Cir ei tharian.

7. Aeth eich dyffrynnoedd dethol yn llawn cerbydau,a'r gwŷr meirch yn gwarchae ar y pyrth;

8. dinoethwyd amddiffynfa Jwda.Yn y dydd hwnnw buoch yn archwilio'rarfogaeth yn Nhŷ'r Goedwig,

9. yn edrych y bylchau yn Ninas Dafyddam eu bod yn niferus,ac yn cronni dyfroedd y Llyn Isaf.

10. Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalema thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;

11. gwnaethoch gronfa rhwng y ddau furi ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn.Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth,nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.

12. Yn y dydd hwnnw, fe alwodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, am wylofain a galaru,am eillio pen a gwregysu â sachliain;

Eseia 22