Eseia 22:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dyma'r hyn a ddywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd:“Dos, a gofyn i'r swyddog hwn, Sebna, arolygydd y tŷ,

16. ‘Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma,dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun,gan dorri dy fedd ar le uchela naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?

17. Wele, bydd yr ARGLWYDD yn gafael yn dynn ynotac yn dy hyrddio i lawr, ŵr cryf;

18. bydd yn dy chwyrlïo amgylch ogylch,ac yn dy daflu fel pêl ar faes agored, llydan.Yno y byddi farw, ac yno yr erys dy gerbydau mawreddog,yn warth i dŷ dy feistr.

19. Fe'th yrraf o'th swydd, ac fe'th fwrir o'th safle.’ ”

Eseia 22