Eseia 22:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalema thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;

11. gwnaethoch gronfa rhwng y ddau furi ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn.Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth,nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.

12. Yn y dydd hwnnw, fe alwodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, am wylofain a galaru,am eillio pen a gwregysu â sachliain;

13. ond dyma lawenydd a gorfoledd,lladd gwartheg a lladd defaid,bwyta cig ac yfed gwin, a dweud,“Gadewch inni fwyta ac yfed,oherwydd yfory byddwn farw.”

14. Datguddiodd ARGLWYDD y Lluoedd hyn yn fy nghlyw, a dweud,“Yn wir, ni lanheir y drygioni hwn nes i chwi farw.”Dyna a ddywedodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

15. Dyma'r hyn a ddywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd:“Dos, a gofyn i'r swyddog hwn, Sebna, arolygydd y tŷ,

16. ‘Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma,dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun,gan dorri dy fedd ar le uchela naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?

17. Wele, bydd yr ARGLWYDD yn gafael yn dynn ynotac yn dy hyrddio i lawr, ŵr cryf;

18. bydd yn dy chwyrlïo amgylch ogylch,ac yn dy daflu fel pêl ar faes agored, llydan.Yno y byddi farw, ac yno yr erys dy gerbydau mawreddog,yn warth i dŷ dy feistr.

19. Fe'th yrraf o'th swydd, ac fe'th fwrir o'th safle.’ ”

20. “Yn y dydd hwnnw byddaf yn galw am fy ngwas Eliacim fab Hilceia,

21. ac yn ei wisgo â'th fantell di, ac yn rhwymo dy wregys amdano, ac yn rhoi d'awdurdod di yn ei law. Bydd ef yn dad i drigolion Jerwsalem ac i bobl Jwda.

Eseia 22