Eseia 19:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisela phob crefftwr yn torri ei galon.

11. O'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan,y doethion sy'n cynghori Pharo â chyngor hurt!Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, “Mab y doethion wyf fi,o hil yr hen frenhinoedd”?

12. Ble mae dy ddoethion?Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgubeth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglŷn â'r Aifft.

13. Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid,a thwyllwyd tywysogion Noff;aeth penaethiaid ei llwythau â'r Aifft ar gyfeiliorn.

Eseia 19