Eseia 18:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Canys cyn y cynhaeaf, pan dderfydd y blodau,a'r tusw blodau yn troi'n rawnwin aeddfed,torrir ymaith y brigau â chyllell finiog,a thynnir i ffwrdd y cangau sydd ar led.

6. Fe'u gadewir i gyd i adar rheibus y mynyddac i anifeiliaid gwylltion.Yno bydd yr adar rheibus yn treulio'r haf,a'r anifeiliaid gwylltion yn gaeafu.

7. Yn yr amser hwnnw dygir rhoddion i ARGLWYDD y Lluoedd gan bobl dal a llyfn, pobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd, i'r lle sy'n dwyn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Mynydd Seion.

Eseia 18