Eseia 17:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd;ni chofiaist graig dy gadernid;am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryda gosod impyn estron,

11. a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwyac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy,bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofida gwendid nychlyd.

12. Och! Twrf pobloedd laweryn taranu fel tonnau'r môr;y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion.

13. Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion,pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell;erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt,fel plu ysgall o flaen corwynt.

14. Tua'r hwyrddydd wele drallod;cyn y bore aeth y cyfan.Dyma dynged ein hysbeilwyr,dyma ran ein rheibwyr.

Eseia 17