1. Yr oracl am Ddamascus:“Wele fe beidia Damascus â bod yn ddinas;bydd yn bentwr o adfeilion.
2. Gwrthodir ei dinasoedd am byth,a byddant yn lle i ddiadelloeddorwedd ynddo heb neb i'w cyffroi.
3. Derfydd am y gaer yn Effraim,ac am y frenhiniaeth yn Namascus;bydd gweddill Syria fel gogoniant Israel,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4. “Ac yn y dydd hwnnw,bydd gogoniant Jacob yn cilioa braster ei gig yn darfod.
5. Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd ŷd,ac yn medi'r tywysennau â'i fraich,bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim.
6. Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd,dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau,pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed,”medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.
7. Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel.
8. Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd—y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.
9. Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid, a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith.