Eseia 16:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch,ac arni fe eistedd un ffyddlonym mhabell Dafydd,barnwr yn ceisio barn degac yn barod i fod yn gyfiawn.

6. Clywsom am falchder Moab—mor falch ydoedd—ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd,heb sail i'w hymffrost.

7. Am hynny fe uda Moab;uded Moab i gyd.Fe riddfana mewn dryswch llwyram deisennau grawnwin Cir-hareseth.

8. Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma;drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion;buont yn cyrraedd hyd at Jaser,ac yn ymestyn trwy'r anialwch.Yr oedd ei blagur yn gwthio allan,ac yn cyrraedd ar draws y môr.

9. Am hynny wylaf dros winwydd Sibmafel yr wylais dros Jaser;dyfrhaf di â'm dagrau, Hesbon ac Eleale;canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.

Eseia 16