Eseia 16:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Anfonodd llywodraethwr y wlad ŵyno Sela yn yr anialwch i fynydd merch Seion.

2. Y mae merched Moab wrth rydau Arnonfel adar aflonydd wedi eu troi o'u nythod.

3. “Dwg gyngor, gwna dy fwriad yn glir;bydded dy gysgod fel nos drosom,hyd yn oed ar ganol dydd;cuddia'r ffoaduriaid,paid â bradychu'r crwydriaid.

4. Bydded i ffoaduriaid Moab aros gyda thi;bydd di yn lloches iddynt rhag y dinistrydd.”Pan ddaw diwedd ar drais,a pheidio o'r ysbeilio,a darfod o'r mathrwyr o'r tir,

Eseia 16