Eseia 15:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab.Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell â Soar,hyd Eglath-shalisheia;dringant riw Luhith dan wylo,a thorri calon ar ffordd Horonaim.

6. Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir;gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni.

7. Am hynny cludant dros nant Arabimyr eiddo a'r enillion a gasglwyd ganddynt.

8. Aeth y gri o amgylch terfynau Moab,nes bod udo yn Eglaim, ac udo yn Beer-elim.

9. Y mae dyfroedd Dimon yn llawn o waed,ond dygaf waeth eto ar Dimon—llew ar warthaf ffoaduriaid Moab,ac ar warthaf y gweddill yn y tir.

Eseia 15