3. gwisgir sachliain yn yr heolydd;ar bennau'r tai, ac yn sgwâr y dref,bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo.
4. Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain,a chlywir eu cri hyd Jahas;am hynny bydd lwynau Moab yn crynu,ac yntau yn ysgwyd drwyddo.
5. Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab.Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell â Soar,hyd Eglath-shalisheia;dringant riw Luhith dan wylo,a thorri calon ar ffordd Horonaim.
6. Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir;gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni.