8. Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn,a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud,“Er pan fwriwyd di ar dy orweddni chododd neb i'n torri ni i lawr.”
9. Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddii'th dderbyn pan gyrhaeddi;bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod,pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear;gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd,sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.
10. Bydd pob un ohonynt yn ymateb,ac yn dy gyfarch fel hyn:“Aethost tithau'n wan fel ninnau;yr wyt yr un ffunud â ni.”
11. Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol,yn sŵn miwsig dy nablau;oddi tanat fe daenir y llyngyr,a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid.
12. O fel y syrthiaist o'r nefoedd,ti, seren ddydd, fab y wawr!Fe'th dorrwyd i'r llawr,ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd.
13. Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd,dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf;eisteddaf ar y mynydd cynnullym mhellterau'r Gogledd.
14. Dringaf yn uwch na'r cymylau;fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.”
15. Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd,i lawr i ddyfnderau'r pwll.
16. Bydd y rhai a'th wêl yn synnua phendroni drosot, a dweud,“Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu,ac a ysgytiodd deyrnasoedd?
17. Ai hwn a droes y byd yn anialwch,a dinistrio'i ddinasoeddheb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?”
18. Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd,pob un yn ei le ei hun;
19. ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd,fel erthyl a ffieiddir;fe'th orchuddiwyd â chelaneddwedi eu trywanu â chleddyf,ac yn disgyn i waelodion y pwll,fel cyrff wedi eu sathru dan draed.